Ymateb i ymgynghoriad: Ymchwiliad i Strategaeth newydd y Gymraeg

1.     Cyflwyniad

1.1.    Mae’r Coleg Cymraeg yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn.  Rydym eisoes wedi ymateb yn llawn i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chroesawn y cyfle hwn i gyflwyno ymateb pellach mewn perthynas ag agweddau penodol o’r strategaeth.

1.2.    Y mae nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn uchelgeisiol, ond croesawn y weledigaeth hon, a’r ymrwymiad i sicrhau twf gwirioneddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y degawdau nesaf.  Rydym yn gefnogol iawn i’r egwyddor o greu strategaeth hirdymor ar gyfer yr iaith, a hyderwn y bydd adnoddau priodol yn cael eu darparu gan y Llywodraeth er mwyn rhoi’r cynlluniau ar droed.  Bydd llwyddiant y strategaeth arfaethedig yn amodol ar ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod y strategaeth a’r targedau ynghlwm â hi yn cael eu perchnogi ar draws holl adrannau’r Llywodraeth. Yn yr un modd bydd ymrwymiad cyrff sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth yn hanfodol, ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r Llywodraeth a phartneriaid eraill wrth weithredu amcanion y strategaeth hon.

1.3.    Wrth gyflwyno’r strategaeth newydd, credwn ei bod yn bwysig sicrhau cydbwysedd addas rhwng adnabod blaenoriaethau a thargedau cychwynnol, sydd yn gyraeddadwy, ond hefyd cymryd camau buan a phwrpasol tuag at weithredu’r newidiadau strwythurol hirdymor sydd yn allweddol os am gyrraedd targed 2050.  Mae’n bwysig gosod cerrig milltir a thargedau clir a phwrpasol ar hyd y cyfnod amser er mwyn gallu monitro cynnydd a chyflawniad, gan ymateb ac addasu cynlluniau fel y bo’n briodol er mwyn sicrhau cynnydd parhaus.  Credwn bod angen cyhoeddi cynllun gweithredu llawn i gyd-fynd â’r strategaeth newydd hon, a chredwn fod angen gosod targedau a cherrig milltir penodol ar gyfer 5,10 a 15 mlynedd cyntaf y strategaeth er mwyn mesur cynnydd y cynlluniau a gyflwynir.  Er enghraifft, gan fod gwireddu amcanion y strategaeth, yn ddibynnol i raddau helaeth ar dwf a chynnydd addysg Gymraeg, credwn bod angen craffu’n fanwl ar ddata dilyniant mewn addysg er mwyn sicrhau fod cynnydd yn y nifer sy’n parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg drwy’r sectorau, gan ddefnyddio’r data hynny i ymateb ac ymyrryd yn bwrpasol.

Ymateb y Coleg i brif bwyntiau ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

2.     Cynllunio a chreu gweithlu cyfrwng Cymraeg

2.1.    Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai un o’i phrif amcanion yw creu gweithlu sydd â’r sgiliau priodol i addysgu a darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.  Credwn bod angen cymryd naid fawr ymlaen yn y cyd-destun hwn, ac mae angen ymgymryd â gwaith cynllunio priodol a blaenoriaethu adnoddau i ddatblygiadau a fydd yn amcanu at gyflawni’r nod.  Credwn bod angen dwysáu a chyflymu’r broses o adnabod anghenion gweithlu’r dyfodol mewn gwahanol feysydd, gan ystyried pa lefel ac ystod o sgiliau Cymraeg a dwyieithog y bydd eu hangen mewn meysydd penodol ymhen degawd a mwy. 

2.2.    Mae angen datblygu gweithlu â sgiliau dwyieithog cadarn ym mhob maes o wasanaeth, a dylid ceisio gosod targedau penodol o ran nifer y gweithwyr a all weithio’n ddwyieithog ar draws y sectorau.  Mewn meysydd unigol, lle bo bylchau amlwg yn y ddarpariaeth bresennol, megis yn y sector cyhoeddus (er enghraifft, ym maes addysg, iechyd, a gofal cymdeithasol) dylid cyflwyno cynlluniau ysgogi ac ymyrryd er mwyn dwysau’r ymdrechion i ymgyrraedd at y nod, gan osod cerrig milltir er mwyn sicrhau cynnydd yn y tymor byr a’r tymor hir. Yn y cyswllt hwn, drwy gynllunio’n ofalus a defnyddio data marchnad lafur, credwn y dylid gosod targedau blynyddol ar gyfer nifer y graddedigion prifysgol sy’n cwblhau cyfran o’u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn yr un modd, dylid gosod targedau cyffelyb ar gyfer y nifer o fyfyrwyr sy’n graddio neu’n cymhwyso ar ôl astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg bellach. 

2.3.    Nid yw darparu cyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg, a cheisio ymgyrraedd at dargedau yn y niferoedd sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ddigon ynddo’i hun i sicrhau cynnydd yn y gweithlu cyfrwng Cymraeg.  Credwn bod angen strategaeth hyrwyddo integredig hirdymor sy’n pwysleisio gwerth yr iaith fel sgil ac fel mantais mewn pob cyd-destun o fywyd - mewn bywyd, mewn gwaith, ac mewn cymdeithas.  Mae’r Coleg wedi cyflwyno Tystysgrif Sgiliau Iaith sy’n cynnig dull cyffredin a syml o fesur a chydnabod sgiliau iaith myfyrwyr, ac mae’n gymhwyster y gellid ei addasu a’i gymhwyso i feysydd gwahanol, gan gynnwys y gweithle.  Mae bodolaeth tystysgrif o’r fath yn gam tuag at roi bri ar sgiliau iaith yn y gweithle, ac mae darparu cefnogaeth i fyfyrwyr wella eu sgiliau yn gyfraniad pwysig tuag at y gwaith o ddatblygu unigolion a fydd yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac yn broffesiynol yn y gweithle maes o law.  Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r Dystysgrif ymhellach yn y dyfodol, gyda’r nod o weld y Dystysgrif yn cael ei datblygu i fod yn un o’r prif gymwysterau iaith a ddefnyddir i gydnabod sgiliau iaith myfyrwyr, a hyfedredd iaith yn y gweithle.

2.4.    Mae’r Coleg ar fin cyhoeddi Cynllun Academaidd newydd, sy’n adeiladu ar waith y Coleg yn ystod ei bum mlynedd cyntaf, gan osod fframwaith ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ystod eang o feysydd, ar draws prifysgolion Cymru. Drwy weithio’n agosach gyda chyflogwyr, ac ymateb i bolisïau’r Llywodraeth, bydd y Coleg yn adnabod sectorau i’w blaenoriaethau, ac yn targedu meysydd penodol er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i astudio a chymhwyso drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan y Coleg rôl yn y gwaith o sicrhau cyflenwad o raddedigion cymwys ar gyfer pob gweithlu, a bydd yn gosod targedau i’w hun ac i’w bartneriaid o safbwynt cyflawni’r weledigaeth sydd ganddo yn ei Gynllun Academaidd newydd.  Yn y sector iechyd a gofal, er enghraifft, ni fydd modd cyflawni’r ‘cynnig rhagweithiol’ a amlinellir yng ngweledigaeth Mwy na Geiriau heb ymarferwyr iechyd sy’n hyderus i gyfathrebu â’u cleifion a’u cleientiaid yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Er mwyn gwireddu hyn, a gyrru’r newid yn y ddarpariaeth, mae angen arweiniad clir gan y Llywodraeth a’r Gwasanaeth Iechyd, a phroses hyfforddi ac addysgu sy’n pwysleisio’r angen am sgiliau dwyieithog.

2.5.    Er mwyn gwireddu uchelgais y strategaeth iaith arfaethedig, mae angen rhoi pwyslais ar ‘greu’ gweithlu sy’n gallu darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, ond rhaid hefyd dwysáu ymdrechion i Gymreigio gweithleoedd presennol a sicrhau fod y galw am sgiliau iaith Gymraeg a dwyieithog yn y gweithle yn cael ei adnabod, ei annerch a’i hyrwyddo. Mae’r cam hwn yn gam allweddol tuag at gynyddu’r gwasanaethau Cymraeg yn ein cymunedau, ac yn gwbl allweddol i’r gwaith o normaleiddio’r iaith.  Mae’r gwaith y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn ei wneud yn y cyd-destun hwn yn allweddol, ac mae’n bwysig bod adnoddau digonol yn cael eu clustnodi i waith y Ganolfan er mwyn cyflwyno rhaglenni newydd i ddysgu Cymraeg yn y gweithle.  Bydd y Coleg yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a phartneriaid eraill wrth ymateb i dargedau’r strategaeth hon. 

2.6.    Rhaid nodi y bydd adnabod anghenion y gweithle a’r cyflogwyr hefyd yn arf marchnata ychwanegol wrth annog rhieni i ddewis addysg Gymraeg i’w plant, a sicrhau fod myfyrwyr yn parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol eu cyfnod mewn addysg. Mae’n annatod felly i’r gwaith o annog dilyniant mewn addysg Gymraeg o’r crud i’r gweithle.

3.     Cynyddu’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg

3.1.    Y mae’r maes addysg yn gwbl greiddiol i weithredu a gwireddu amcanion y strategaeth iaith arfaethedig, a chredwn fod cyflwyno newidiadau i’r sector addysg statudol, ac ail gyflunio hyfforddiant cychwynnol athrawon yn gwbl allweddol i lwyddiant y strategaeth hon.  Er mwyn ymateb i’r heriau presennol, mae angen trawsnewid y disgwyliadau ar hyfforddeion o safbwynt y Gymraeg er mwyn sicrhau bod pob athro neu ddarlithydd sy’n cymwys i ddysgu yng Nghymru yn medru, i raddau mwy neu lai, addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

3.2.    Nid oes unrhyw amheuaeth bod angen cynlluniau penodol i gynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n medru’r Gymraeg, ac yn hyderus wrth ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith.  Dylid dadansoddi’r sefyllfa’n genedlaethol a chyflwyno targedau hyfforddi er mwyn diwallu’r angen am gynnydd yn y gweithlu addysgu sy’n medru’r Gymraeg. Rhaid hefyd buddsoddi adnoddau a sefydlu ymgyrchoedd penodol er mwyn recriwtio a hyfforddi athrawon cyfrwng Cymraeg, a’u cefnogi wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd. Mae angen meithrin lefel uchel o sgiliau iaith ymysg athrawon presennol ac athrawon y dyfodol er mwyn cryfhau’r sector addysg Gymraeg a chodi safonau llythrennedd yn ein hysgolion. Rhaid felly sicrhau fod rhaglenni hyfforddiant yn cynnig cefnogaeth ieithyddol gadarn, gan roi bri ar lefelau uchel o sgiliau yn y Gymraeg.

3.3.    Mae llawer o newidiadau yn yr arfaeth ym maes hyfforddiant athrawon ac wrth bennu canolfannau wedi eu hachredu i hyfforddi athrawon yn y dyfodol, mae’n allweddol bod ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn ganolog i’r broses o’r cychwyn. Credwn y dylid gosod gofynion penodol yn ymwneud â gallu sefydliadau i ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg wrth bennu darparwyr a dilysu rhaglenni hyfforddi, ac yn yr un modd, dylid gosod disgwyliad ar ysgolion partneriaeth i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

3.4.    Mae’r Coleg Cymraeg wedi datblygu Tystysgrif Cymhwysedd Iaith ar gyfer Athrawon, sy’n gam cychwynnol tuag at ddatblygu sgiliau ieithyddol darpar athrawon, a chryfhau’r gydnabyddiaeth a roddir i athrawon sy’n medru dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’r Dystysgrif yn darparu sail i ddatblygiadau pellach, gan gynnwys y cysyniad o gyflwyno continwwm iaith ar gyfer athrawon.  Mae’r Coleg hefyd yn y broses o adolygu Cynllun Colegau Cymru, sef y cynllun a ddilynir gan fyfyrwyr ar gyrsiau TAR / HCA cynradd nad sy’n rhugl yn y Gymraeg i ddysgu’r Gymraeg fel iaith.  Y nod wrth adolygu’r cynllun fydd datblygu strwythur newydd ar gyfer dysgu’r iaith a datblygu sgiliau iaith darpar athrawon sy’n ddysgwyr neu’n newydd i’r iaith, er mwyn sicrhau bod modd iddynt ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i ryw lefel neu’i gilydd erbyn iddynt gymhwyso fel athrawon.

3.5.    Yn ogystal â chryfhau’r pwyslais ar yr iaith, a lefelau sgiliau iaith myfyrwyr ar gyrsiau hyfforddiant athrawon, mae’n rhaid cyflwyno cynllun cynhwysfawr i gefnogi athrawon sydd newydd gymhwyso ac athrawon sydd eisoes mewn swydd fel bo hyfedredd ieithyddol yn cael ei weld fel rhan annatod o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus addysgwyr yng Nghymru. Mae llwyddiant y Cynllun Sabothol, a’r ystod o raglenni a ddarperir drwy’r cynllun hwn yn gosod sail gadarn i’r gwaith hyn.  Ond, bydd angen cynyddu’r adnoddau a ddarperir i gynlluniau o’r fath er mwyn sicrhau cynnydd digonol yn y nifer o athrawon sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg dros y degawdau nesaf.  Yn yr un modd credwn fod lle i ymestyn natur y rhaglenni hyn ymhellach er mwyn targedu carfannau gwahanol o athrawon sydd ag ystod amrywiol o sgiliau yn y Gymraeg.

3.6.    Yn ein barn ni, yr hyn sy’n allweddol, yw sicrhau bod hyfedredd ieithyddol, a’r angen i ddatblygu sgiliau uchel yn y Gymraeg yn cael ei weld fel rhan naturiol o ddisgwyliad mynediad, a datblygiad proffesiynol pob athro neu athrawes yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at drafodaethau pellach ynghylch mewnbwn y Coleg i’r maes hwn, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â phartneriaid eraill wrth i’r gwaith ddatblygu yn y dyfodol.

Diolch am y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, a’r gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.  Edrychwn ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth yn y gwaith o gynllunio a gweithredu’r strategaeth allweddol hon.

Yn gywir

Dr Gwennan Schiavone
Uwch Reolwr Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol